Cwrdd a'r fferi
Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol bod prif faes parcio'r pentref yn y sgwâr yn aml yn llawn ac mae'r blaendraeth (ar draws y rheilffordd) ar gyfer parcio a’i defnyddio gan aelodau Clwb Hwylio Afon Tywi yn unig.
Anogir teithwyr fferi i ddefnyddio cludiant cyhoeddus lle bo modd.
Mae gorsaf reilffordd yng Nglanyfferi ac mae'r bws 198 yn rhedeg rhwng Caerfyrddin, Cydweli a Llanelli. Hefyd mae'r pentref ar lwybr trafnidiaeth gynaliadwy (Sustrans4) sydd yn cysylltu â llwybrau beicio cyfagos. Nid oes tâl am gario beic ar y fferi, sydd â lle i bedwar.
O amgylch Glanyfferi
Mae gan bentref Glanyfferi y dafarn y White Lion a'r chaffi y Ferry Cabin. Ychydig ymhellach o'r traeth fe welwch chi gaffi / bwyty, Pryd O Fwyd, gyda gwesty'r Three Rivers ym mhen pellaf y pentref.
O draeth Glanyfferi mae'n bosibl dilyn yr arfordir yn y naill gyfeiriad neu'r llall. I'r de mae pentref hynafol St Ishmael, y mae'r eglwys yn dal i sefyll yno. Collwyd y rhan fwyaf o'r pentref i'r môr, ac mae'n weddillion i'w gweld ar lanw isel. I'r gogledd mae yn a dir cors sy'n gartref i lawer o adar a bywyd gwyllt.
Yn hanesyddol roedd Glan-y-fferi yn bentref pysgota, ac er bod hyn wedi diflannu i raddau helaeth, mae casglu chocos a physgota gan rwyd seine traddodiadol dal yn fyw yn yr ardal.