Adnabyddir mannau codi ar gyfer tripiau'r fferi trwy faneri siâp pluen ar draethau Llansteffan a Glan y Fferi. Mae Glansteffan yn gwch agored, gyda chysgodlen ar y ddwy ochr a thô i warchod teithwyr rhag gwynt a glaw, ond does dim gwresogi. Dylai teithwyr sicrhau bod ganddynt ddillad addas a digonnol i'w cadw'n gynnes a sych gan y gall yr awel godi'n gryf wrth groesi'r aber, hyd yn oed ar ddyddiau braf, ac yn arbennig felly ar deithiau hirach.
Mae'r seddi'n ymarferol, a'r rhan fwyaf gyda chlustog, ar gyfer 10 o deithiwyr. Fe'ch cynghorir i aros yn eich sedd tra'n teithio. Ceir mynediad i Glansteffan ar risiau alwminiwm agored gyda chanllaw ar y ddwy ochr.
Nid oes lluniaeth ar gael, ond mae croeso i deithwyr ddod â lluniaeth ysgafn gyda nhw. Nid oes toiledau ar fwrdd Glansteffan, ond ceir toliedau cyhoeddus yn union cyn man croesi'r rheilffordd yn Glan y Fferi ac ar ymyl y maes parcio yn Llansteffan.
Mae diogwlch teithwyr yn flaenoriaeth gennym. Mae'r cyfarpar diogelwch angenrheidiol ar y cwch ac mae siacedi bywyd yn cael ei ddarparu. Fe ddisgwylir i deithwyr wisgo siaced bywyd bob amser.
Mae'r criw wrth law i'ch croesawu chi ar fwrdd y cwch, ac i roi help llaw gyda gwisgo'ch siacedi bywyd. Ar ô l eistedd bydd yna cyhoeddiad diogelwch byr. Mae hwn hefyd ar gael wedi ei brintio yn fras, ac mewn Braille.