Hygyrchedd

Mae'r wefan hon wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i gynulleidfa mor eang â phosib.

Gwyddom fod rhai pobl ag anableddau yn canfod defnyddio'r we yn anodd ac, er ei bod yn amhosibl dylunio safle y gall pawb ei ddefnyddio, rydym wedi ymrwymo i wneud y we mor hygyrch â phosibl a cheisio'n gorau i ddangos hyn ym mhob un o'r cynnyrch a grëwn

Os oes gennych broblemau gan ddefnyddio ein gwefan, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud pob ymdrech i helpu.

Mynediad i'r Fferi

Mae Fferïau Bae Caerfyrddin yn gwmni buddiant cymunedol sy'n cael ei redeg gan gyfarwyddwyr gwirfoddol a chriw cyflogedig. Rydym yn ceisio gwneud popeth a allwn i fod o gymorth i bawb a hoffai ddefnyddio ein gwasanaethau a gwneud eich ymweliad yn bleserus.

Oherwydd natur ein gweithrediadau, nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i gadair olwyn gael mynediad rhwydd i’r fferi. Mae mynediad i'r fferi ar y ddwy ochr o'r aber yn cynnwys croesi traeth tywodlyd a allai fod yn anwastad. Rhaid dringo i mewn neu allan o’r cwch dros 5 gris alwminiwm. Mae canllaw ar y naill ochr a'r llall.

Unwaith rydych ar fwrdd y fferi mae lle ar gyfer cadeiriau olwyn plygadwy ac mae criw wrth law os bydd angen cymorth ar unrhyw un i’w tywys i seddi neu i wisgo siaced achub.

Os oes gennych ofyniad penodol, cysylltwch â ni ymlaen llaw, fel bod ein criw yn ymwybodol o'ch ymweliad. Byddwn yn ymdrechu i wneud y trefniadau angenrheidiol i chi.

Nid oes unrhyw gyfleusterau toiled ar fwrdd Glansteffan, ond mae toiledau cyhoeddus ychydig cyn y groesfan reilffordd i'r blaendraeth yn Glanyfferi, ac ar ymyl maes parcio cyhoeddus traeth Llansteffan. Mae toiledau anabl yn y ddau leoliad.