Lleolir Llansteffan a Glan y Fferi ar Lwybr Arfordirol Cymru ac mae'r ddau bentref yn cynnig cysylltiadau da i seiclwyr. Mae gorsaf rheilffordd yng Nglan y Fferi gyda threnau'n rhedeg tua'r Gorllewin i Gaerfyrddin a thu hwnt i Sir Benfro, gyda chysylltiadau fferi am Iwerddon, neu tua'r Dwyrain i Abertawe, Caerdydd a thu hwnt i Lundain. Nid oes gan bob trên le ar gyfer beiciau ac fe'ch cynghorir i sicrhau lle i'ch beic gyda'r gweithredwr trên priodol o flaen llaw.
Mae Glan y Fferi hefyd ar Lwybr Seiclo Cenedlaethol Sustrans 4, sy'n rhedeg o Greenwich yn Nwyrain Llundain i Abergwaun yng Nghymru. Mae'r llwybr hwn yn rhedeg yn fewndirol o Llansteffan, ond gellir ei gyrraedd dros lonydd gwledig Llanybri neu Llangain.
Gellior cludo beiciau i'r naill gyfeiriad a'r llall ar fwrdd Glansteffan yn rhad ac am ddim ond ar risc y perchennog.
Mae lle ar y cwch y tu ôl i'r brif seddi gyda rac beiciau symudol bychan sy'n gallu dal hyd at 4 beic ar un croesiad.
Does dim cysgod dros rhan ôl y cwch, felly, os bydd hi'n bwrw glaw, bydd y beiciau'n gwlychu.