Y Cwch

Glansteffan, Y Cwch

Mae fferi Llansteffan i Glanyfferi - 'Glansteffan' yn gwch alwminiwm, berfformiad uchel, sydd wedi'i osod â System Galluogi Sealegs® Amffibiaidd sy'n ei alluogi i yrru allan o'r dŵr i'r tir.

Ar y dŵr, mae'n cael ei yrru gan dau beiriant 115 o geffylau Yamaha - injanau pedwar strôc allyriadau isel. Yn gyfunol â "planing hull", sy'n ei helpu i sgimio dros y dŵr yn hytrach na'i aredig drwyddo, gall yr injan grymu hi i gyflymder uchaf o 30 knot.

Ar y tir, mae'r cwch yn cael ei yrru gan system Sealegs®. Mae hyn yn cynnwys tair olwyn sydd yn plygu i fyny fel olwynion awyren. Mae'r modur hydrolig wedi'u gosod gyda phob un o'r tri olwyn ac mae'r olwyn blaen yn ystwyth.

Mae gan y cwch gyfarpar da iawn, gyda chwmpawd, mesurudd dyfnder, a plotydd siart GPS llawn a radio "VHF Marine". Mae diogelwch yn cael ei wella gan system trosglwyddo AIS (System Adnabod Awtomatig), a system PA y gellir ei ddefnyddio ar gyfer rhedeg sylwebaeth a chyhoeddiadau. Mae offer diogelwch arall yn cynnwys rafft bywyd, siacedi bywyd i bob teithiwr a cylchoedd bywyd.

Mae seddi yn y cwch i 10 teithiwr, a hyd at 4 beic neu ddwy gadair olwyn. Darperir gwarchodydd rhag y tywydd gan ganopi cynfas wedi'i gynllunio'n dda, gyda phanelau golwg mawr. Gellir ymestyn ochrau’r canopi mewn tywydd da.

Sylwer: ar hyn o bryd dim ond defnyddwyr cadeiriau olwyn gyda gofalwyr sy'n gallu eu cynorthwyo all ddod ar y cwch.

Glansteffan Ferry Cruising in Carmarthen Bay
Carmarthen Bay Ferry Engines

Ystadegau

Had cragen 8 metr
Traw cragen 3 metr
Drafft 0.5 metr
Hyd yn cynnwys allfyrddau ac olwynion 9 metr
Pwysau (heb deithwyr) 2540 cilogram
Pwysau uchaf 3500 cilogram
Cyflymder uchaf ar dir 8 cilometr yr awr
Graddiant uchaf ar dir 1 o bob 5
Cyflymder uchaf ar ddŵr 30 knot
Cyflymder mordeithio ar ddŵr 15 to 20 knot
Ystod ar ddŵr 100 milltiroedd môr
Gallu 2 griw 10 teithiwr
Beiciau / cadeiriau olwyn 4 beic neu 2 gadair olwyn