
Liam - Criw Llawn Amser
Cafodd Liam ei fagu yn Llansaint uwchlaw Bae Caerfyrddin. Cyn-ddisgybl Ygsol Gyfun Bro Myrddin, mae Liam wedi bod yn pysgota am eog a sewin ar afon Tywi yng Nglan y Fferi ers dros ugain mlynedd.
Mae Liam erioed wedi tynnu coes mai'r aber yw ei swyddfa llawn-amser - ac erbyn hyn mae hynny'n wir!
Chris - Criw Rhan Amser
Mae Chris yn byw yn Llansteffan ac yn aelod o Dîm Achub Gwylwyr y Glannau Llansteffan - wedi'i hyfforddi fel technegydd achub dŵr a mwd.
Mae'n hwyliwr dingi brwd ac yn canŵio, ac mae'n aelod o Gôr Meibion Llanelli.
