Amdanom Ni

Mae teithiau ar Afon Tywi yn prysur ddod yn atyniad arfordirol mwyaf blaenllaw Sir Gaerfyrddin. Mae Glansteffan, y fferi amffibaidd unigryw, a enwyd gan blant ysgolion cynradd Llansteffan a Glanyfferi yn atyniad ynddo’i hun ac yn ddiweddar ymddangosodd ar restr o Groesfannau Fferi Mwyaf Rhyfeddol y Byd ar wefan Independent .  Mae'r sylwebaeth addysgiadol a'r criw lleol cyfeillgar ar y lan a'r cychod yn gwneud hwn yn brofiad na ddylid ei golli.